| Comisiwn Cymru Gyfan |
|
|
|
Mae Confensiwn Cymru Gyfan bellach ar waith a dyma eich cyfle i ymuno â'r ddadl. Sefydlwyd y Confensiwn gan y Prif Weinidog a'r Dirprwy Brif Weinidog i helpu i godi ymwybyddiaeth o sut y cawn ein llywodraethu yng Nghymru, ac i ysgogi dadl ledled Cymru ar bwerau deddfu: a ddylai fod gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru bwerau deddfu sylfaenol ai peidio? Gwaith y Confensiwn fydd:
Ein gwaith ni yw eich helpu chi i gael gwybodaeth a chymryd rhan. Rydym am i gymaint o bobl yng Nghymru â phosibl ddeall nod y Confensiwn a chymryd rhan ynddo, fel y gallwch gymryd rhan yn y ddadl fawr ar lywodraeth ddatganoledig a deddfu yng Nghymru. Mae eich barn yn bwysig i ni! Mae'r ddadl ar bwerau'r Cynulliad yn berthnasol i bawb, gan fod gan y defnydd o bwerau'r Cynulliad y potensial i effeithio ar fywydau pawb mewn meysydd mor amrywiol ag iechyd, addysg, yr amgylchedd, yr economi, materion gwledig, diwylliant a chwaraeon - ymysg nifer o feysydd eraill. Ceir nifer o ffyrdd y gallwch fynegi eich barn i ni. Mae gennym wefan, sydd â gwybodaeth am ein holl weithgareddau, a ffyrdd o gysylltu â ni - www.confensiwncymrugyfan.org. Neu gallwch ysgrifennu atom yn: Confensiwn Cymru Gyfan, Adeilad y Pierhead, d/o Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd CF99 1NA. Fel arall, gallwch ymuno â'r ddadl drwy ymuno â'n grŵp Confensiwn Cymru Gyfan ar Facebook. Rydym hefyd yn cynllunio nifer o gyfarfodydd cyhoeddus o fis Ionawr ymlaen, felly cadwch lygad ar agor i weld pryd y byddwn yn eich ardal chi a dewch i ymuno â'r trafodaethau.
Cofiwch, mae'r Confensiwn ar gyfer pawb, a dyma'ch cyfle chi i gymryd rhan yn y ddadl. |


